Mae hunanfomiwr wedi rhuthro i mewn i fosg mwyaf talaith Herat yn Afghanistan, gan ladd beth bynnag 20 o bobol ac anafu dwsinau yn rhagor.

Mae adroddiadau lleol yn herio’r ffigwr o ugain, fodd bynnag, gan ddweud fod nifer y meirwon yn agosach i 100, a bod eu gweddillion wedi’u gwasgaru ar hyd y lle.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn ystod gweddïau gyda’r nos, pan oedd tua 300 o addolwyr yn yr adeilad.

Does yna neb eto wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ym Mosg Jawadia, y mosg Shiiaidd mwyaf yn Herat.