Christopher Wray
Mae Senedd yr Unol Daleithiau wedi cadarnhau mai Christopher Wray fydd cyfarwyddwr newydd yr FBI.

Fe bleidleisiodd yr aelodau 92-5 o blaid y dyn gafodd ei enwebu gan Donald Trump i arwain y bwrdd ymchwilio ffederal.

Cyn-gyfreithiwr ydi Christopher Wray, a fu’n gweithio i adran gyfiawnder y cyn-Arlywydd George W Bush. Fe arweiniodd ymchiliadau i honiadau o dwyll corfforaethol.

Fe fydd Christopher Wray, 50, yn olynu James Comey, a gafodd y sac gan Donald Trump ddechrau Mai eleni. Roedd hynny oherwydd ffrae ynglyn â’r honiadau fod Rwsia wedi ymyrryd yn ymgyrch ethol arlywydd 2016 yn yr Unol Daleithiau.