Mae dau gyn-arweinydd Gwlad Thai wedi eu cael yn ddieuog o gamddefnyddio pŵer yn ystod protest cafodd ei lonyddu yn 2008.

Dyfarnodd llys yn Bangkok fod y cyn-Brif Weinidog, Somchai Wongsawat, y cyn-Ddirprwy Prif Weinidog, Chavalit Yongchaiyudh, a dau gyn-swyddog heddlu yn ddieuog.

Roedd yr unigolion yma wedi eu cyhuddo o ganiatáu i heddlu ddefnyddio trais yn erbyn protestwyr wnaeth rhwystro mynedfa adeilad y Cynulliad Cenedlaethol.

Bu farw dau berson a chafodd cannoedd o bobol eu hanafu yn ystod brwydr wnaeth ddilyn y protest.

Dywedodd y barnwr nad oedd modd iddo ddod i’r casgliad mai arfau a ffrwydron yr heddlu oedd yn gyfrifol am anafiadau’r protestwyr.

Thaksin Shinawatra

Somchai Wongsawat yw brawd yng nghyfraith Thaksin Shinawatra – Prif Weinidog poblogaidd cafodd ei ddiswyddo yn 2006.

Mae cefnogwyr Thaksin Shinawatra yn dadlau mai ymgais i waredu ei ddylanwad dros fywyd gwleidyddol y wlad, yw’r achosion llys yn erbyn ei gyfeillion.