Y Ty Gwyn yn Washington
Mae Anthony Scaramucci wedi cael ei ddiswyddo fel pennaeth cyfathrebu’r Tŷ Gwyn ar ôl llai na phythefnos yn y swydd.

Daeth y cyhoeddiad oriau’n unig ar ôl i John Kelly, pennaeth staff newydd yr Arlywydd Donald Trump, ddechrau yn ei swydd.

Mae John Kelly wedi bod yn dangos ei awdurdod ers iddo symud o’r adran ddiogelwch gyda’r bwriad o ddod a “strwythur a disgyblaeth” i’r Tŷ Gwyn.

Cafodd Anthony Scaramucci ei ddiswyddo ar ôl iddo ddefnyddio “iaith amhriodol” wrth drafod aelodau o staff y Tŷ Gwyn a oedd wedi gwrthwynebu ei benodiad.

Fe yw’r trydydd person i fod yn swydd y pennaeth cyfathrebu yn ystod y chwe mis diwethaf.

Yn y cyfamser mae Donald Trump wedi gwadu bod yna “anhrefn” yn y Tŷ Gwyn gan drydar: “Ar y cyfan dwi’n credu ein bod ni’n gwneud yn arbennig o dda. Mae’r economi yn gwneud yn hynod o dda, a nifer o bethau eraill.”