Lluoedd diogelwch yn ymateb i ymosodiad Kabul (Llun: AP / Rahmat Gul)
Mae swyddogion heddlu Afghanistan yn adrodd fod ymosodiad ym mhrifddinas y wlad, Kabul, wedi targedu llysgenhadaeth Irac.

Digwyddodd yr ymosodiad ddydd Llun ac roedd yn cynnwys car, ffrwydradau gyda thystion yn adrodd am glywed gynnau’n cael eu tanio o gwmpas llysgenhadaeth Irac.

Mae llefarydd ar ran y Gweinidog Mewnol, Najib Danish, wedi cadarnhau fod y gwleidyddion oedd y tu fewn i adeilad y llysgenhadaeth wedi cael eu hachub.

Nid oes adroddiadau hyd yn hyn am anafiadau.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Mae’r ardal wedi’u chau gan swyddogion diogelwch.