Mae awdurdodau Irac wedi atal cynllwyn Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ – i ddifetha nifer o gysegrfeydd hanesyddol.
Eu bwriad oedd ffrwydro safleoedd Shiaidd yn Karbala a Najaf, yn ôl adroddiadau.
Ymhlith y safleoedd eraill oedd yn cael eu targedu mae cartre’r Ayatollah Ali al-Sistani.
Daw’r adroddiadau am y cynllwyn wythnosau’n unig ar ôl i luoedd Irac a Rwsia gwblhau cyrchoedd awyr yn Raqqa ac yn Syria.
Yn gynharach yn y mis, fe gipiodd lluoedd Irac ddinas Mosul oddi ar Daesh ar ôl naw mis o frwydro ffyrnig.