Mae un person wedi cael ei saethu’n farw mewn clwb nos yn ne’r Almaen.

Cafodd tri o bobol, gan gynnwys plismon, eu hanafu yn y digwyddiad yn Konstanz yn nhalaith Baden-Wurttemberg.

Cafodd y saethwr ei saethu gan yr heddlu’n ddiweddarach, ac fe fu farw yn yr ysbyty.

Dydy hi ddim yn glir beth oedd cymhelliad y saethwr.