Mae dyn wedi’i ddedfrydu i farwolaeth ar ol lladd 19 o bobol mewn pentref yn ne-orllewin China.

Fe gollodd Yang Qingpei, 27, o bentref Yema, ei limpyn pan wrthododd ei rieni â thalu ei ddyledion gamblo.

Fe’i cafwyd yn euog o ladd ei rieni gyda bwyell fis Medi diwethaf, cyn mynd yn ei flaen i drywanu 17 o bobol eraill, yn cynnwys ei berthnasau a chymdogion.

Dyma un o’r achosion mwyaf gwaedlyd o lofruddio yn y wlad ers blynyddoedd – a hynny mewn gwlad lle mae hi’n anodd iawn i bobol brynu gynnau.