Gorsaf França
Mae o leiaf 48 o bobol wedi’u hanafu mewn damwain trên yng ngorsaf Barcelona.
Mae lluniau sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan gymdeithasol Twitter yn dangos difrod mawr i gerbyd blaen y trên, wedi iddo fethu â stopio yn stesion França yn y ddinas.
Yn ol adroddiadau, mae 18 o bobol wedi’u cludo i’r ysbyty, ac mae pump o’r rheiny mewn cyflwr difrifol. Fe ddaeth cadarnhad hefyd fod gyrrwr y trên ymhlith y rhai sydd wedi’i anafu.
Roedd y trên yn dod i mewn o gyfeiriad pentref Sant Vicenc de Calders yn nhalaith Tarragona ar linell R2.