Robert a Grace Mugabe
Mae gwraig arlywydd Simbabwe wedi annog ei gwr i enwi ei olynydd.

Er bod Grace Mugabe, gwraig Robert Mugabe, 93, wedi dweud yn y gorffennol bod ei gwr mor bwerus y gallai barhau i arwain o’r bedd, roedd ei sylwadau ar deledu’r wlad ddoe (ddydd Iau, Gorffennaf 27) ychydig yn wahanol.

“Mae’n dweud ’na, na, na’,” meddai’r wraig 52 oed am amharodrwydd arweinydd hyna’r byd i ddweud pwy fydd yn dod ar ei ol.

A, thra bod ei gwr yn bresennol mewn cyfarfod o ferched ei blaid, ZANU-PF, fe ofynnodd iddo yn eu gwydd i wneud ei ddewis.

“Ti, arlywydd, paid â bod ofn,” meddai Grace Mugabe. “Dwed wrthon ni pwy yw dy ddewis. Pwy ddylen ni ei gefnogi? Oherwydd rydyn ni’n dy barchu di. Dy air di ydi’r gair olaf ar y mater.”

Fe ddaeth cymeradwyaeth o’r gynulleidfa, ond ni ddaeth ymateb gan yr arlywydd sydd wedi arwain Simbabwe ers 1980.