Donald Trump
Mae’r ymgais ddiweddaraf i ddiddymu cynllun iechyd Barack Obama wedi methu, yn dilyn noson ddramatig yn Senedd America.

Fe wnaeth y dyn a aeth yn benben â Barack Obama yn y ras i’r Tŷ Gwyn yn 2008 – John McCain – a gafodd ddiagnosis o ganser yr ymennydd yn ddiweddar – bleidleisio yn erbyn cynlluniau Donald Trump i gael gwared â Obamacare.

Chwalodd y bleidlais o 51 i 49, gydag o leiaf tri Gweriniaethwr, gan gynnwys John McCain, yn pleidleisio yn erbyn.

Roedd yn cael ei alw yn ddeddf ddiddymu “denau” a fyddai wedi tynnu nôl ar rai o gynigion mwyaf dadleuol yr Arlywydd.

Dyma’r trydydd tro y mae Donald Trump wedi ceisio pasio’r ddeddf.

Yn ôl y Swyddfa Gyllid Gyngresol, byddai wedi arwain 16 miliwn o bobol yn colli eu hyswiriant iechyd erbyn 2026, gyda phremiymau yn cynyddu 20%.