Llun camera cylch cyfyng o lofruddiaeth Kim Jong Nam
Mae dwy fenyw sydd wedi’u cyhuddo o wenwyno hanner brawd arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un, yn bwriadu pledio’n ddieuog i lofruddiaeth yn Uchel Lys Malaysia fory (dydd Gwener, Gorffennaf 28).

Mae Siti Aisyah o Indonesia, a Doan Thi Huong o Fiet-nam, wedi’u cyhuddo o rwbio’r gwenwyn, VX, ar wyneb Kim Jong Nam ym maes awyr Kuala Lumpur ar Chwefror 13 eleni.

Mae’r ddwy, sy’n wynebu’r gosb eithaf os y byddan nhw’n cael eu canfod yn euog, yn dweud iddyn nhw gael eu twyllo i feddwl eu bod yn cymryd rhan mewn rhaglen deledu o jocs.

Yn achos Siti Aisyah, 25, mae’n dweud iddi gael ei recriwtio ar gyfer y rhaglen gamera-cudd yn gynnar ym mis Ionawr, a hynny gan ddyn o Ogledd Corea yr oedd hi’n ei alw yn ‘James’. Fe fu mewn cyfres o gyfarfodydd ac yn ymarfer y tric, cyn mynd i’r maes awyr i’w wneud ‘go iawn’.

Yn achos Doan Thi Huong, 29, roedd hi wedi’i gwisgo mewn siwmper wen gyda’r gair ‘LOL’ mewn priflythrennau mawr du arni. Mae’r camerâu diogelwch yn ei dangos hi’n llamu amdano o’r tu ol yn y maes awyr.

Bu farw Kim Jong Nam, ar ei ffordd i’r ysbyty.