Mae pennaeth pentref yng nghanolbarth Pacistan wedi’i arestio am ganiatau, yn honedig, i ferch yn ei harddegau gael ei threisio.

Mae llefarydd ar ran yr heddlu yn ninas Multan wedi cadarnhau mai Saeed Patwari ydi enw’r dyn, a’i fod yn arweinydd cyngor pentref ger y ddinas honno.

Fe gafodd cyfanswm o 24 o ddynion eu harestio wedi iddyn nhw fynd i gyfarfod ar Orffennaf 18, lle cafodd dyn lleol, Mohammad Ashfaq, ganiatad i dreisio merch 17 oed oherwydd i’w chwaer ef ei hun gael ei threisio gan ddyn arall, Omar Wadda.

Fe fyddai’r treisio yn ‘gwneud yn iawn’ am y treisio gwreiddiol, ac mae’n sail i nifer o achosion tebyg o ‘droseddau anrhydedd’.

Mae’r heddlu yn dal i chwilio am Mohammad Ashfaq, ond mae Omar Wadda bellach yn y ddalfa ac wedi’i gyhuddo o dreisio chwaer Mohammad Ashfaq.