Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi dweud y bydd yn rhwystro pobol drawsryweddol rhag gwasanaethu ym myddin y wlad.

Dywedodd Donald Trump ar ei gyfrif Trydar ei fod wedi ymgynghori ag “arbenigwyr milwrol” ac na fyddai Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn eu caniatáu “i wasanaethu mewn unrhyw fodd” o hyn ymlaen.

“Rhaid i’n lluoedd arfog ganolbwyntio ar fuddugoliaeth,” meddai. “Ni ddylen nhw wynebu’r baich o gostau meddygol anferthol ac aflonyddwch a ddaw yn sgil milwyr trawsrywiol.”

Mae pobol drawryweddol wedi medru gwasanaethu ym myddin y wlad ers y llynedd, pan ddaeth y cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn, Ash Carter, â’r gwaharddiad i ben.

Mi wnaeth penaethiaid y fyddin gyhoeddi yn ddiweddar y byddan nhw’n gohirio caniatáu pobol sydd yn trawsryweddol ac yn agored am hynny rhag ymrestru. Er hynny, mae milwyr sydd yn agored am eu trawsryweddoldeb eisoes yn gwasanaethu’r fyddin.