Mae o leiaf bump o bobol wedi marw, wedi i adeilad ddymchwel yn Lagos, Nigeria.

Yn ol yr awdurdodau, mae beth bynnag 15 o bobol eraill wedi cael eu hachub o rwbel yr adeilad pedwar llawr ers y digwyddiad brynhawn Mawrth.

Dydyn nhw ddim yn gallu cadarnhau ar hyn o bryd beth achosodd y cwymp, a does yna neb yn siwr faint o bobol oedd yn byw yn yr adeilad.

Mae gweithwyr achub wedi bod yn chwilio trwy’r nos am bobol a allai fod wedi goroesi.

Yn y cyfamser, mae cannoedd o bobol wedi ymgynnull yn y fan a’r lle, mewn rhan dlawd iawn o ddinas Lagos.