Frank a Barbara Sinatra
Mae Barbara, pedwaredd gwraig y canwr, Frank Sinatra, wedi marw. Roedd hi’n 90 oed ac yn byw yng Nghaliffornia.

Gyda chymorth ei gŵr, fe sefydlodd ganolfan i roi gofal i blant oedd wedi dioddef camdriniaeth gorfforol, rhywiol ac emosiynol. Mae mwy nag 20,000 o blant wedi derbyn gofal gan y ganolfan dros y blynyddoedd, ac mae miloedd yn rhagor wedi derbyn cymorth drwy fideos y ganolfan.

Priododd â Frank Sinatra yn 1976, pan oedd e’n 60 a hithau’n 49 oed. Roedden nhw’n briod tan ei farwolaeth ef yn 82 oed yn 1998.

Roedd hi’n briod â Zeppo Marx cyn hynny, ac roedd hi wedi bod yn briod dair gwaith yn ystod ei bywyd.