Cardinal George Pell (Llun: AP Photo/Gregorio Borgia)
Mae un o brif swyddogion y Fatican wedi bod gerbron llys yn Awstralia heddiw, wedi’i gyhuddo o droseddau rhyw.

Mae George Pell, 76, yn mynnu ei fod yn ddieuog, ond mae’r helynt yn debygol o godi cwestiynau am agwedd yr Eglwys Gatholig at droseddau rhyw.

Cafodd ei gyhuddo fis diwethaf o gamdrin nifer o bobol yn rhywiol yn nhalaith Victoria rai blynyddoedd yn ôl.

Dyw’r manylion ddim wedi cael eu cyhoeddi eto, ond mae lle i gredu mai troseddau hanesyddol ydyn nhw. Dyw George Pell ddim wedi cyflwyno plê eto, ond mae disgwyl iddo bledio’n ddieuog.

Munudau yn unig barodd y gwrandawiad yn Llys Ynadon Melbourne, ac fe gafodd y cardinal gymeradwyaeth gan rai aelodau’r Eglwys wrth iddo ddod i mewn.

Mae’r Pab Ffransis wedi dweud yn y gorffennol na fyddai’n goddef unrhyw fath o gamdrin rhywiol o fewn yr Eglwys Gatholig, ond dyw e ddim wedi gorfodi’r Cardinal i ymddiswyddo.

Mae disgwyl i’w gyfreithwyr gyflwyno’u hachos erbyn Medi 8, ac fe fydd yn ymddangos gerbron y llys unwaith eto ar Hydref 6.