Ardal Biguglia lle mae'r tanau gwaetha' (Pierre Bona CCA 3.0)
Mae’r gwasanaethau brys yn Corsica wedi bod wrthi trwy’r nos yn ymladd tanau gwyllt yn ngogledd-ddwyrain yr ynys.

Yn ôl un adroddiad, roedd fflamau un tân ymestyn ar draws 900 hectar – mwy na 3,000 erw – o goedwigaeth gan beryglu cartrefi yn ardal ardal Biguglia ger dinas Bastia.

Mae tân arall a oedd yn ymestyn dros 110 hectar – 264 erw –  yn ne’r ynys o gwmpas tref Aleria bellach o dan reolaeth.

Mae yna adroddiadau o danau mewn rhannau eraill o dde Ffrainc wedyn yn ardaloedd Vacluce, Var a Carros ger Nice, gyda nifer o bobol yn gorfod gadael eu cartrefi.