Canol San Antonio (llun parth cyhoeddus)
Fe fydd dyn yn ymddangos o flaen llys yn yr Unol Daleithiau ar ôl i naw o ffoaduriaid farw mewn trelyr.

Yn ôl yr heddlu, mae’n achos dychrynllyd o smyglo pobol.

Mae 17 o bobol eraill hefyd mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl cael eu hachub o’r cerbyd ddoe, yn diodde’ o ddiffyg dŵr a gwres.

Ffoaduriaid

Fe gafodd y cyrff eu ffeindio yn y trelyr a oedd wedi ei adael y tu allan i archfarchnad Walmart yn Texas.

Mae llywodraethau Mexico a Guatemala wedi cadarnhau bod dinasyddion o’u gwledydd nhw ymhlith y ffoaduriaid.

Mae dyn 60 oed, James Mathew Bradley o Florida, wedi cael ei arestio ac fe gydd yn cael ei gyhuddo yn ddiweddarach heddiw.

Naw wedi marw mewn trelyr

Achos “dychrynllyd” o smyglo pobol yn yr Unol Daleithiau