Mae dyn o wlad yr Iorddonen wedi’i saethu’n farw, a dyn o Israel wedi’i anafu, mewn digwyddiad treisgar yn llysgenhadaeth Israel yn Amman.

Nos Sul, roedd Gweinyddiaeth Dramor Israel yn gwrthod gwneud sylw ar y digwyddiad.

Fe ddaw’r digwyddiad ar adeg lle mae’r tensiwn rhwng Israel a’r byd Mwslimaidd ar gynnydd, a hynny wedi i’r awdurdodau yn Israel osod offer diogelwch ychwanegol mewn cyrchfan boblogaidd gyda Mwslimiaid ac Iddewon yn Jerwsalem.

Gwlad yr Iorddonen sy’n gyfrifol am y safle, o ran y Mwslimiaid, ac fe fu miloedd o bobol Gwlad yr Iorddonen yn cynnal protest yn erbyn Israel yn Amman ddydd Gwener