Baner y Wladwriaeth Islamaidd
Mae rhestr o 173 o rai sydd gan amheuaeth o fod yn ymladdwyr ISIS wedi cael ei dosbarthu ymysg heddluoedd sy’n aelodau o Interpol.

Yn ôl adroddiad yn y Guardian, cafodd y rhestr ei chreu o wybodaeth o rai o guddfannau’r Wladwriaeth Islamaidd yn Irac a Syria.

Y pryder yw y bydd rhai o ymladdwyr ISIS yn teithio drosodd i Ewrop wrth i’w Califfet gael ei dinistrio yn y Dwyrain Canol.

Mae’r rhestr yn cynnwys enwau’r rhai sydd dan amheuaeth, dyddiad eu recriwtio, eu cyfeiriad diwethaf, y mosg y maen nhw’n gweddïo ynddo, enw eu mam ac unrhyw ffotograffau sydd ar gael.

Mae’r bobl hyn yn cael eu diffinio fel unigolion sydd wedi cael eu “hyfforddi i adeiladu a gosod dyfeisiadau ffrwydrol er mwyn achosi marwolaethau ac anafiadau”.

Mae’n ymddangos mai gwasanaethau cudd America a gasglodd yr wybodaeth, cyn ei anfon ymlaen at Interpol.