Mae’r arolwg barn diweddaraf yn awgrymu bod gostyngiad yn y gefnogaeth i annibyniaeth yn Catalunya, gyda mwy o bobl yn erbyn nag sydd o blaid.
Roedd yn dangos 49.4% o bobl Catalunya yn erbyn torri’n rhydd o Sbaen – un pwynt canran yn uwch na’r hyn oedd ym mis Mawrth; a 41.4% o blaid annibynniaeth, tri phwynt canran i lawr.
Roedd yr arolwg, gan un o gyrff llywodraeth Catalunya, yn seiliedig ar gyfweliadau wyneb yn wyneb â 1,500 o bobl.
Daw’r arolwg ychydig dros ddau fis cyn refferendwm y mae llywodraeth Catalunya yn bwriadu eu gynnal ar 1 Hydref.
Yn ôl llywodraeth Sbaen, mae’r refferendwm yn anghyfansoddiadol ac mae’n bygwth rhwystro cyllid i lywodraeth Catalunya os bydd yn mynd yn ei flaen.
Mae llywodraeth Catalunya yn cyhuddo llywodraeth Sbaen o beryglu gwasanaethau cymdeithasol er mwyn rhwystro’r bleidlais ac o roi undod Sbaen o flaen dymuniadau democrataidd y bobl.