Y marina yn Bodrum (Llun parth cyhoeddus)
Mae dau berson wedi marw a dros 120 wedi eu hanafu mewn daeargryn ger arfordir ynysoedd Groeg a Thwrci.
Cafodd dinas Bodrum yn ne Twrci a’r ynys Roegaidd, Kos, eu heffeithio gan y daeargryn graddfa 6.7.
Fe gafodd adeiladau yn Kos gael eu difrodi gan y crynfeydd, ac mae adroddiadau am tswnami bach yn achosi llifogydd ar rannau o’r ynys.
Bu’n rhaid i dwristiaid ffoi o’u gwestai pan darodd y daeargryn am 1.30 y bore gyda chrynfeydd pellach trwy gydol y nos.
Cyngor i ymwelwyr
Mae Kos a Bodrum yn fannau poblogaidd i deithwyr o Brydain ac mae’r Swyddfa Dramor yn annog pobol o’r Deyrnas Unedig i ddilyn cyfarwyddiadau awdurdodau lleol.
“Rydym mewn cysylltiad ag awdurdodau Twrci a Groeg yn dilyn daeargryn ger arfordir Bodrum ac ynys Kos,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor.
“Dylai unrhyw berson o Brydain sydd yn yr ardal ddilyn cyfarwyddiadau’r awdurdodau lleol.”