Ram Nath Kovind
Gwleidydd cenedlaetholgar Hindwaidd sydd wedi’i ddewis yn arlywydd newydd India.

Fe gafodd Ram Nath Kovind ei ethol gan Senedd yr India yn ystod pleidlais ddydd Llun yr wythnos hon, a’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi heddiw (ddydd Iau, Gorffennaf 20).

Fe fu Ram Nath Kovind yn llywodraethwr ar dalaith Bihar yn nwyrain y wlad, ac mae wedi arddel cysylltiad hir a’r Rashtriya Swayamsevak Sangh – grwp Hindwaidd sydd wedi’i gyhuddo o gorddi casineb yn erbyn Mwslimiaid.

Rol seremoniol, yn bennaf, ydi un arlywydd India. Mae’n rhwym i gyngor y Cabinet sy’n cael ei arwain gan brif weinidog y wlad.