Mae tri o ddynion wedi’u dedfrydu i farwolaeth gan lys yn Cenia, wedi iddyn nhw dynnu dillad dynes ar fws, a’i cham-drin yn rhywiol.

Fe gafwyd y dynion yn euog o ladrata trwy ddefnyddio trais – trosedd sy’n cario’r gosb eithaf trwy grogi.

Mae’r rhan fwyaf o’r troseddau yn deillio o 2014, ac fe gawson nhw eu ffilmio ar ffon symudol. Ar y pryd, fe esgorodd y gyfres o ymosodiadau ar brotestiadau yn y wlad dan y teitl #MyDressMyChoice, gan fod y dynion yn mynnu fod menywod oedd yn cael eu targedu wedi’u gwisgo yn anaddas.

Fe ddywedodd y ddioddefwraig wrth y llys fod y tri dyn ymhlith grwp o saith o ddynion oedd wedi ceisio ei threisio ar fws cyhoeddus, ond eu bod wedi cadw draw unwaith iddi hi ddweud ei bod yn HIV-positif.