Mae heddlu yn y Swistir wedi cadarnhau mai cwpwl aeth ar goll yn 1942 yw’r ddau gorff sydd wedi cael eu darganfod yn ddiweddar ar rewlif yn yr Alpau.

Yn dilyn profion DNA mae heddlu canton Valais wedi llwyddo adnabod cyrff y gŵr a gwraig, Marcelin Dumoulin a Francine Dumoulin.

Gwnaeth yr heddlu dderbyn adroddiadau am y cyrff ddydd Gwener.

Aeth y cwpwl ar goll ar rewlif Tsanfleuron wrth fwydo eu hanifeiliaid, yn ôl eu merch hynaf sydd bellach yn 79.

Mae heddlu’r rhanbarth wedi bod yn cadw cofnodion o bobol sydd ar goll yno ers 1925.

Gyda’r byd yn poethi oherwydd cynhesu byd eang, mae’n debyg fod cyrff yn cael eu darganfod yn rheolaidd yn Valais wrth i’r rhewlifoedd doddi.