Mae heddlu maes awyr yn Japan wedi dod o hyd i 30 o fwledi ym mag un o griw awyren American Airlines.

Fe gafodd y bwledi eu darganfod yn ystod profion diogelwch ym maes awyr Narita yn Tokyo, cyn i’r dyn fynd ar fwrdd awyren yn ol i’r Unol Daleithiau.

Mae llefarydd ar ran heddlu’r maes awyr wedi dweud mai dyn yn ei 50au oedd yr aelod o griw’r awyren, a’i fod yn honni iddo “anghofio” gadael y bwledi gartref cyn hedfan i Tokyo. Mae cario bwledi mewn bag llaw ar unrhyw awyren yn anghyfreithlon dan gyfraith America.

Mae’r dyn wedi’i ryddhau, gan nad oedd yn debygol o ddinistrio tystiolaeth.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau, er mwyn ceisio canfod sut oedd modd iddo gyrraedd Narita gyda’r bwledi yn y lle cyntaf.