Kim Jong Un
Mae De Corea wedi cynnig cynnal trafodaethau â Gogledd Corea i leddfu’r elyniaeth ar hyd eu ffiniau a cheisio aduno teuluoedd wedi’r rhyfel yn yr 1950au.

Ond mae’n aneglur ar hyn o bryd a fydd Gogledd Corea a’u harweinydd Kim Jong Un yn derbyn y cynnig wrth i’w hamheuon barhau y gallai De Corea fod yn gweithio gyda’r Unol Daleithiau.

Mae Dirprwy Weinidog Amddiffyn De Corea, Suh Choo Suk, wedi dweud fod swyddogion amddiffyn De Corea yn bwriadu cynnal trafodaethau ar sut i ddod â gweithgaredd gelyniaethus a milwrol i ben, a hynny ar y ffin ym mhentref Panmunjom ddydd Gwener.

Ond mae llefarydd ar ran elusen y Groes Goch yn Ne Corea wedi dweud eu bod am gadw’r trafodaethau hynny ar wahân â’r trafodaethau ar Awst 1 i geisio aduno teuluoedd.

Mae Arlywydd De Corea, Moon Jae-in, wedi dweud ei fod am ddatblygu’r berthynas gyda Gogledd Corea wrth i’r paratoadau fynd rhagddynt ar gyfer  Gemau Olympaidd y gaeaf yn 2018 yn Pyeongchang yn Ne Corea.