Mae o leiaf wyth o bobol wedi’u lladd a thros 50 wedi’u hanafu ar ôl i wal gwympo mewn stadiwm yn Dakar, prifddinas Senegal.

Fe fu cefnogwyr timau pêl-droed US Ouakam a Stade de Mbour yn ymladd â’i gilydd cyn y digwyddiad yn stadiwm Demba Diop.

Roedd yr heddlu wedi ceisio tawelu’r cefnogwyr cyn hynny gan ddefnyddio nwy dagrau.

Mae llywodraeth y wlad wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Fe fydd gwaharddiad ar weithgareddau chwaraeon a diwylliannol yn Senegal cyn etholiadau’r wlad ar Orffennaf 30.