Mae dwy ddynes o’r Almaen wedi cael eu lladd ac mae pedwar wedi cael eu niweidio gan ddyn â chyllell mewn gwesty gwyliau yn Hurghada ger y Môr Coch.

O’r rhai a gafodd eu hanafu, roedd dau yn dod o Serbia ac un o wlad y Pwyl.

Cafodd yr ymosodwr – dyn oedd yn ei ugeiniau – ei arestio yn syth ar ôl yr ymosodiad yn ôl awdurdodau lleol.

Mae’n debyg i’r ymosodwr gyrraedd y gwesty trwy nofio o draeth cyfagos ac unwaith yr oedd yno mi drywanodd dwristiaid yn eu hwynebau, gyddfau, a’u traed.

Daeth ymosodiad ddoe ond ychydig oriau wedi ymosodiad ar bwys pyramidiau enwog yr Aifft ger Cairo, lle bu farw pum plismon.