Traeth Phuket, Gwlad Thai
Mae dyn wedi disgyn 230 o droedfeddi i’w farwolaeth wrth bara-forio yn ne Gwlad Thai.

Roedd Roger John Hussey yn ymwybodol am gyfnod byr pan aeth meddygon ato, ond bu farw’n fuan wedyn yn yr ysbyty, meddai heddlu yn Phuket.

Mae’r gweithiwr para-forio a’r gyrrwr cwch wedi cael eu cyhuddo o achosi marwolaeth drwy esgeulustod.

Dywedodd gwraig Roger John Hussey, Boosabong Tongsanga, oedd yn gwylio o’r traeth wrth i’w gŵr ddisgyn i ddŵr bas, ei fod wedi bod yn gwylio pobol yn para-forio am ddiwrnodau cyn penderfynu rhoi tro arni ei hun.

Mae chwaraeon dŵr fel para-forio – lle’r unigolyn â pharasiwt yn cael ei dynnu gan gwch sydyn – yn boblogaidd mewn ardaloedd i dwristiaid fel Phuket.