Kinshasa, prifddinas y Congo
Mae 38 bedd torfol wedi’u darganfod yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, yn ôl y Cenhedloedd Unedig.

Mae gwrthdaro rhwng milwyr a milisia wedi lladd miloedd o bobol yn y wlad ers mis Awst. Mae 80 o feddau torfol wedi’u darganfod yn y wlad hyd yma.

Yn ôl rhai diplomyddion, mae’r tensiynau yn gysylltiedig â gohirio etholiad arlywyddol y Congo. Ond mae llywodraeth y wlad yn mynnu mai’r trais sydd yn gyfrifol am y gohirio.

Cafodd y beddau diweddaraf eu darganfod y mis yma yn ardaloedd Diboko a Sumbula yn nhiriogaeth Kamonia.

Mae un o benaethiaid y Cenhedloedd Unedig, Jean-Pierre Lacroix, yn dweud fod y trais wedi cyrraedd “lefelau iasol” yno.