Donald Trump (Llun: Michael Vadon CCA 4.0)
Doedd yr Arlywydd Donald Trump ddim yn gwybod am gyfarfod ei fab, Donald, â chyfreithiwr o Rwsia oedd wedi cynnig gwybodaeth am Hillary Clinton.

Dyna y mae Donald Trump, y mab, yn ei ddweud, gan ychwanegu nad oedd “dim i’w ddweud” am y sefyllfa wrth ei dad.

Mae cyfres o negeseuon e-bost sydd wedi’u cyhoeddi ar Twitter yn dangos sgwrs rhwng Donald Trump y mab â chyhoeddwr cerddoriaeth oedd yn dymuno iddo fe gyfarfod â chyfreithiwr o Rwsia oedd yn fodlon cynnig gwybodaeth “frwnt” am Hillary Clinton a allai niweidio’i hymdrechion i ddod yn Arlywydd.

Dywedodd Donald Trump y mab ei fod yn “caru” y wybodaeth.

Amddiffyn ei hun

 

Mae Donald Trump, y mab, wedi amddiffyn ei sylwadau, gan ddweud bod y penderfyniad wedi’i wneud ar gyflymdra “miliwn milltir yr awr” y bywyd arlywyddol.

“O edrych yn ôl, mae’n bosib y byddwn i wedi gwneud pethau ychydig yn wahanol,” meddai.

Mae Democratiaid wedi beirniadu ei weithredoedd, gan ddweud bod y negeseuon yn dystiolaeth glir o gynllwyn.

Ond dydy’r Gweriniaethwyr ddim wedi ei feirniadu, er gwaetha’r cyhoeddusrwydd gwael i’r blaid.

“Dim ond rhan o’r darlun” yw’r negeseuon, yn ôl un o’r Gweriniaethwyr, y Seneddwr Susan Collins.

Er i Donald Trump, y mab, geisio awgrymu ei fod e wedi bod yn “hollol dryloyw” wrth gyhoeddi’r e-byst, roedd papur newydd y New York Times eisoes wedi cael gafael arnyn nhw.

Dywedodd Donald Trump, y tad, fod ei fab “yn berson o safon uchel”, ac fe ddywedodd ei fod yn “canmol ei dryloywder”.