Donald Trump Jr
Mae honiadau fod mab Donald Trump wedi derbyn e-bost yn sôn am wybodaeth gan Rwsia a allai helpu ymgyrch ei dad i ddod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Mae papur newydd The New York Times yn adrodd y gallai’r cyfarfod hwnnw rhwng Donald Trump Jr a chyfreithwraig o Rwsia y llynedd fod wedi ymdrin â “gwybodaeth negyddol” am Hillary Clinton.

Cafodd y cyfarfod gyda’r gyfreithwraig Natalia Veselnitskaya, sydd â chysylltiadau â’r Kremlin, ei ddisgrifio fel cyfarfod i drafod hen raglen oedd yn caniatáu pobol o America i fabwysiadu plant o Rwsia.

Ond mae’r New York Times yn honni fod Donald Trump Jr wedi derbyn y gwahoddiad i gyfarfod ar ôl clywed y gallai dderbyn gwybodaeth fyddai “o help” i ymgyrch Donald Trump.

Mae ymchwilwyr federal a chyngresol yn archwilio a oedd Rwsia wedi amharu ar yr ymgyrch arlywyddol, ac fe allai’r cyfarfod hwn fod yn un o’r achosion gwybyddus cyntaf i’r honiadau hynny.

‘Dim manylion’

Mewn datganiad ddydd Sul dywedodd Donald Trump Jr, “ni chafodd manylion na gwybodaeth gefnogol ei ddarparu na hyd yn oed ei gynnig.”

Yn ogystal mae Mark Corallo, llefarydd ar ran tîm cyfreithiol Donald Trump wedi dweud – “Doedd yr Arlywydd ddim yn ymwybodol ac ni wnaeth fynd i’r cyfarfod.”

Mae’r Kremlin yn gwadu unrhyw wybodaeth am y cyfarfod â’r cyfreithiwr.