Mae awyren filwrol o’r Unol Daleithiau wedi disgyn yn nhalaith Mississippi gan ladd o leiaf 16 o bobol.

Yn ôl swyddogion y gwasanaethau brys disgynnodd yr awyren KC-130 i’r ddaear mewn ardal wledig tua 85 milltir i’r gogledd o Jackson yn Mississippi Delta.

Ychwanegodd yr awdurdodau fod malurion yr awyren wedi’u gwasgaru dros bum milltir.

Bu swyddogion tân yn ceisio diffodd y tân yn dilyn y gwrthdrawiad ac yn ôl llygad dystion roedd y mwg du i’w weld am filltiroedd gan losgi oriau ar ôl y gwrthdrawiad a ddigwyddodd yn hwyr nos Lun.

Does dim manylion pellach wedi’u rhyddhau am achos y gwrthdrawiad, nac o ble yr oedd yr awyren wedi dod.