Roedd trydedd noson o brotestiadau gwrth-globaleiddio yn Hamburg neithiwr, hyd yn oed ar ôl i arweinwyr y G20 adael y ddinas.

Defnyddiodd yr heddlu beiriannau dŵr i wasgaru’r dorf y bore ma wrth i’r protestwyr ymosod arnyn nhw â pholion haearn a choncrid.

Mae 144 o bobol wedi’u harestio, a 144 o bobol wedi’u cadw yn y ddalfa dros dro.

Cafodd dros 200 o blismyn eu hanafu ers dydd Iau.

Mae Gweinidog Tramor yr Almaen, Sigmar Gabriel wedi beirniadu’r trais.