Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi croesawu’r cadoediad fydd yn dod i rym yn ne orllewin Syria ganol dydd yfory.

Daw’r cadoediad yn dilyn cytundeb rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia i geisio dod ag anghydfod chwe blynedd i ben.

Cafodd y cytundeb ei drefnu wrth i Donald Trump a Vladimir Putin gyfarfod yn uwchgynhadledd y G20 yn Hamburg.

Mae’r Cenhedloedd Unedig yn dweud bod y cadoediad yn “gam yn y cyfeiriad cywir”.

Fe fydd rhagor o drafodaethau heddwch yn dechrau yng Ngenefa ddydd Llun.