Mae wyth o bobol wedi marw ar ôl i adeilad gwympo yn yr Eidal.

Roedd un person oedrannus a dau deulu yn eu plith.

Mae’r gwaith o glirio’r rwbel yn nhref Torre Annunziata i’r de o Napoli wedi dod i ben, 24 awr ar ôl i’r adeilad gwympo.

Roedd mwy nag 80 o ddiffoddwyr tân wedi bod yn gweithio dros nos i ddod o hyd i bobol.

Dydy hi ddim yn glir eto pam fod yr adeilad wedi cwympo, ond mae lle i gredu bod cyswllt rhwng y digwyddiad a gwaith atgyweirio’r adeilad.

Mae’r rheilffordd sy’n cysylltu Napoli â safle hanesyddol Pompeii ynghau wrth i’r gwaith barhau.

Mae erlynwyr yn ystyried cyhuddiadau posib yn erbyn unigolion wrth i ymchwiliad barhau.