Mae Donald Trump a Vladimir Putin bellach wedi cwrdd cyn iddyn nhw gynnal cyfarfod pwysig ar gyrion yr uwch-gynhadledd G20 yn yr Almaen.

Fe ddaeth y ddau ar draws ei gilydd yn gyflym ar ôl cyrraedd y gynhadledd yn Hamburg, gan ysgwyd llaw a rhannu ambell i air.

Bydd eu cyfarfod yn cael ei gynnal dan gysgod ymchwiliadau i honiadau fod Donald Trump wedi cyd-weithio â Moscow yn ystod yr etholiad arlywyddol y llynedd.

Mewn araith yn Warsaw ddoe, galwodd Donald Trump ar Rwsia i gefnu ar ei “gefnogaeth i lywodraethau gelyniaethus” – gan gynnwys Syria ac Iran.

‘Ymyrraeth’ Rwsia yn yr etholiad

Mewn cynhadledd newyddion yng Ngwlad Pwyl ddydd Iau, fe wnaeth Donald Trump wrthod derbyn casgliad sawl asiantaeth wybodaeth yn yr Unol Daleithiau fod Rwsia wedi ceisio ei helpu i ennill y ras arlywyddol fis Tachwedd y llynedd.

Dywedodd yr Arlywydd ei bod yn bosib bod Rwsia wedi ymyrryd, ond hefyd mynnodd y gallai gwledydd eraill fod wedi ymyrryd yn y broses hefyd.

“Does neb yn gwybod yn iawn,” meddai.

Mae’r Arlywydd dan bwysau o ran sut i ddelio ag arweinydd Rwsia, sy’n gyn-asiant gwybodaeth cudd ac fel arfer yn paratoi’n drylwyr ar gyfer cyfarfodydd.

Mae’r Tŷ Gwyn wedi rhoi 35 munud ar gyfer y cyfarfod, sy’n codi cwestiynau dros faint o amser fydd gan Trump a Putin i drafod.