Theresa May (o'i chyfri Twitter)
Trafod ffyrdd o fynd i’r afael â brawychiaeth fydd blaenoriaeth Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ystod cyfarfod arweinwyr gwledydd mawr y G20 yn yr Almaen heddiw.

Mae disgwyl y bydd Theresa May yn canolbwyntio yn benodol ar yr angen i daro cronfeydd arian grwpiau eithafol, ac yn annog banciau ac awdurdodau i gydweithio ymhellach.

Hefyd mi fydd hi’n galw ar genhedloedd i rannu cudd-wybodaeth er mwyn cadw llygad ar ryfelwyr eithafol sydd yn gadael Syria ac Irac.

Protestio

Ymysg materion eraill fydd yn cael eu trafod yn y cyfarfod deuddydd o hyd bydd Gogledd Corea, caethwasiaeth fodern, masnach rydd a newid hinsawdd.

Mae disgwyl bydd y cyfarfod yn Hamburg yn arwain at lawer o densiwn yn y ddinas, ac mae protestwyr wedi gwrthdaro â’r heddlu yno eisoes.

Yn ôl heddlu, bydd 100,000 o bobol yn ymuno â phrotestiadau yn y ddinas dros ddeuddydd y cyfarfod ac mae’n debyg y bydd tua 8,000 o rheini o adain chwith dreisiol Ewrop.