Mae saith o bobol wedi marw yn dilyn tân mewn adeilad yn Johannesburg lle’r oedd pobol yn byw’n anghyfreithlon, yn ôl yr awdurdodau.

Roedd un o’r rhai fu farw wedi neidio o’r adeilad, yn ôl asiantaeth newyddion yn y wlad.

Cafodd craen ei ddefnyddio i achub mwy na 50 o bobol o’r to yn ystod y tân, a chafodd saith ohonyn nhw eu cludo i’r ysbyty.

Cafodd rhai driniaeth am effeithiau mwg.

Mae ymchwiliad ar y gweill i ddarganfod beth oedd achos y tân, ond mae’r awdurdodau wedi beirniadu’r rhai oedd yn byw yn yr adeilad yn anghyfreithlon.