taflegryn
Mae Gogledd Corea wedi tanio taflegryn balistig a oedd wedi bod yn yr awyr am gyfnod hirach nag unrhyw daflegryn arall sydd wedi cael ei brofi ganddyn nhw.

Fe laniodd y taflegryn yn y dŵr ger Japan.

Dyma’r prawf diweddaraf mewn cyfres o rai tebyg wrth i Ogledd Corea geisio adeiladu taflegryn niwclear a fydd yn gallu cyrraedd yr Unol Daleithiau.

Daw’r prawf ddyddiau’n unig ar ôl cyfarfod rhwng arweinwyr De Corea a’r Unol Daleithiau a chyn yr uwchgynhadledd ryngwladol rhwng economïau cyfoethoga’r byd.