Mali (Llun: Wikimedia Commons)
Wrth i Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron gyrraedd Mali ar gyfer uwchgynhadledd wrth-frawychiaeth, mae al-Qaida yn y wlad wedi cyhoeddi fideo sy’n awgrymu eu bod nhw’n cadw chwech o bobol yn wystlon.

Cafodd y fideo ei gyhoeddi gan Nusrat al-Islam wal Muslimeen, yn ôl yr awdurdodau.

Mae’r fideo’n dangos Stephen McGowan o Dde Affrica, Elliot Kenneth Arthur o Awstralia, Iulian Ghergut o Rwmania, Beatrice Stockly o’r Swistir, Gloria Cecilia Narvaez o Golombia a Sophie Petronin o Ffrainc.

Yn y fideo, mae llais yn dweud na fu “gwir ymgais” i gynnal trafodaethau eto i ryddhau’r gwystlon, a bod Sophie Petronin yn gobeithio y bydd Arlywydd ei gwlad yn ei hachub.

Bwriad yr uwchgynhadledd yn y wlad yw trafod â phump o wledydd i greu sefydliad o 5,000 o bobol ar draws y gwledydd i fynd i’r afael â brawychiaeth.

Mae Nusrat al-Islam wal Muslimeen wedi hawlio cyfrifoldeb eisoes am yr ymosodiad ym Mali fis diwethaf a laddodd bump o bobol.

Daw’r fideo ar ôl i lywodraeth Sweden gyhoeddi ddydd Llun diwethaf fod Johan Gustafsson wedi cael ei ryddhau ar ôl cael ei gadw’n wystl ers chwe blynedd.