Llosgfynydd (Llun: PA)
Mae deg o bobol wedi cael eu hanafu ar ôl i losgfynydd ffrwydro ar ynys Java yn Indonesia.

Roedd gwehilion y llosgfynydd wedi’u taflu 164 o droedfeddi i’r awyr pan ffrwydrodd Sileri, yn ôl yr awdurdodau.

Digwyddodd y ffrwydrad sydyn am 11.30 y bore, ac roedd oddeutu 17 o ymwelwyr yn yr ardal ar y pryd.

Mae’r rhai a gafodd eu hanafu yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty, ac mae trigolion lleol wedi cael eu gorfodi o’u cartrefi.

Doedd Sileri ddim wedi ffrwydro ers 2009, ac mae’n boblogaidd ymhlith twristiaid oherwydd yr hinsawdd a themlau Hindwaidd.