Mae’r Wcrain yn honni mai gwasanaethau diogelwch Rwsia oedd yn gyfrifol am ymosodiad seibr a lwyddodd i gloi cyfrifiaduron ledled y byd yr wythnos ddiwethaf.

Mae asiantaeth ddiogelwch Wcrain, yr SBU, yn dweud fod yna debygrwydd mawr rhwng y feddalwedd a achosodd yr ymosodiad diweddaraf, a’r modd y cafodd cyfrifiaduron yr Wcrain ei hun eu targedu cyn hyn.

Mae hynny’n profi, medden nhw, fod gan Rwsia ran yn y drwgweithredu.

Roedd yr Wcrain ymhlith y gwledydd i gael eu heffeithio fwyaf gan yr ymosodiad ddydd Mawrth yr wythnos hon (Mehefin 27) pan gafodd cyfrifiaduron asiantaethau llywodraeth, cwmnïau ynni a pheiriannau arian eu cloi dros-dro. Y gred ydi fod yr holl wybodaeth oedd yn y peiriannau a’r cyfrifiaduron, wedi’i dwyn, ac y bydd hi’n bosib blacmelio busnesau.

Ond roedd cwmnïau o Rwsia – yn cynnwys y cwmni olew Rosneft, ymhlith y rheiny gafodd eu heffeithio.

Mae’r berthynas rhwng yr Wcrain a Rwsia ar ei gliniau ers i Mosgow hawlio’r Crimea yn 2014 a chefnogi gwrthryfelwyr oedd yn ymladd yn erbyn lluoedd Kiev.