Mae’r Pab wedi dewis peidio ail-benodi un o brif swyddogion mwyaf ceidwadol y Fatican, wedi i’r ddau ohonyn nhw fynd ben-ben ynglyn â hawl Catholigion oedd wedi cael ysgariad i dderbyn y cymun ar ol ail briodi.

Yn ol y Fatican, mae’r Pab Ffransis wedi diolch i’r Cardinal Gerhard Mueller am ei flynyddoedd o wasanaeth, a’i fod yn penodi yn ei le y Monsignor Luis Ferrer i arwain ar faterion y ffydd.

Fe allai’r Pab fod wedi dewis ail-benodi’r Cardinal Mueller am bum mlynedd arall, wrth i’w gyfnod ddod i ben y penwythnos hwn. Ond, mae’r Cardinal ar fin dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed ddiwedd eleni, a dyna’r oed ymddeol arferol ar gyfer esgobion.

Er hynny, mae’n amlwg fod anghytuno rhwng y ddau yn y gorffennol, hefyd, wedi chwarae rhan yn y penderfyniad i adael iddo fynd cyn ei ben-blwydd.