Kashmir
Mae menyw wedi’i lladd, a nifer o bobol wedi’u hanafu, yn ystod protestiadau yn erbyn llywodraeth India yn ardal Kashmir.

Fe drodd pethau’n flêr wedi i luoedd y llywodraeth geisio mynd i’r afael â gwrthryfelwyr yn yr ardal.

Mae’r heddlu’n dweud fod gwrthryfelwyr wedi tanio atyn nhw, wrth i filwyr geisio gwagio ardal ym mhentref Dyalgam.

Fe aeth y gwrthryfelwyr i mewn i gartref lle’r oedd pobol gyffredin wedi bod yn gaeth. Fe gafodd menyw ei saethu’n farw yn yr ymladd rhwng y ddwy ochr.

Mae India a Phacistan yn rheoli eu rhannau eu hunain o Kashmir, ond mae’r ddwy ochr yn mynnu mai hi sydd â’r hawl i wneud hynny.