Mosul yn Irac Llun: PA
Mae lluoedd Irac wedi cipio mosg yn ninas Mosul a gafodd ei ddinistrio gan grŵp eithafol y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wythnos ddiwethaf.

Fe gipiodd lluoedd arbenigol Mosg al-Nuri a’r strydoedd cyfagos brynhawn ddydd Iau yn dilyn cyrch yn gynnar yn y bore.

Mi fydd yn rhaid i dimau o beirianyddion fynd ati nawr i waredu ffrwydron cudd sydd wedi cael eu gadael yn y mosg gan IS.

Hon yw buddugoliaeth ddiweddaraf lluoedd Irac yn ei hymgyrch i waredu’r Wladwriaeth Islamaidd o  gymdogaeth yr Hen Ddinas yng ngorllewin Mosul.

O Fosg al-Nuri y cyhoeddodd arweinydd IS, Abu Bakr al-Baghdadi, bod y grŵp yn hawlio perchnogaeth dros diriogaethau yn Syria ac Irac.