Y Cardinal George Pell (Llun: AP Photo/Gregorio Borgia)
Mae ymgynghorydd cyllid y Pab Ffransis yn wynebu nifer o gyhuddiadau yn Awstralia yn ymwneud ag ymosodiadau rhyw hanesyddol.

Y Cardinal George Pell yw un o brif Gardinaliaid yr Eglwys Gatholig yn Awstralia ac uwch-swyddog mwyaf dylanwadol y Fatican i gael ei gyhuddo mewn cysylltiad â’r sgandal yn ymwneud a cham-drin rhywiol.

Dywedodd dirprwy gomisiynydd heddlu Fictoria Shane Patton bod yr heddlu wedi galw’r Cardinal George Pell, 76, yn ôl i Awstralia i wynebu nifer o gyhuddiadau yn ymwneud a “throseddau rhyw hanesyddol.”

Mae George Pell yn gwadu’r cyhuddiadau ac wedi dweud y bydd yn dychwelyd i Awstralia i wrthwynebu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.