Y tân yn Kensington
Mae dinas yng ngorllewin yr Almaen wedi gorfodi tenantiaid tŵr o fflatiau i adael yr adeilad oherwydd pryderon bod yr adeilad wedi ei orchuddio â chladin fflamadwy tebyg i Dŵr Grenfell yn Llundain.

Mae awdurdodau dinas Wuppertal yn dweud fod risg tân yr adeilad wedi cael ei ailasesu yn dilyn trychineb tân Tŵr Grenfell, Kensington, lle bu farw o leiaf 79 o bobol.

Mae llety dros dro wedi cael ei ddarparu i tua 70 o breswylwyr yn y tŵr yn Wuppertal, ac mi fydd modd iddyn nhw ddychwelyd yno pan fydd y cladin wedi ei dynnu oddi ar ochr allan yr adeilad.

Paneli alwminiwm oedd yn gorchuddio Tŵr Grenfell ac mae arbenigwyr yn dadlau mai’r cladin yma wnaeth alluogi i’r tân ledaenu mor gyflym.